Mae’r cwmni darlledu lloeren BSkyB wedi cyhoeddi cynnydd o 32% yn eu  helw heddiw, wrth i’r cwmni lwyddo i werthu mwy o becynnau ar gyfer llinellau ffôn a band-llydan, er bod gostyngiad mewn tanysgrifiadau teledu.

Ymunodd 26,000 o dai newydd â gwasanaeth teledu BSkyB yn y tri mis i 30 Medi eleni, gan ddod â chyfanswm y tanysgrifwyr i 10.2 miliwn – cyfanswm sydd 100,000 yn is na’r nifer a ymunodd yn y chwarter cynt.

Ond mae’r cwmni wedi llwyddo i wella eu helw sylfaenol, sydd wedi codi i £327 miliwn. Mae rhan helaeth o’r elw hwn wedi dod yn sgil llwyddiant y cwmni wrth werthu gwasanaethau newydd y cwmni i gwsmeriaid presennol. Mae hyn wedi gweld gwerthiant pecynnau llinell ffôn a band-llydan yn cryfhau yn aruthrol.

Mae 2.9 miliwn o gwsmeriaid y cwmni nawr yn derbyn pecynnau band-llydan a ffôn yn ogystal â theledu.

Mae’r cwmni hefyd wedi elwa yn ariannol eleni ar ôl derbyn £39 miliwn gan gwmni News Corporation Rupert Murdoch, fel iawndal am orfod roi’r gorau i’w cynnig i brynu 61% o’r cwmni nad oedd eisoes yn berchen iddyn nhw, yn sgil y sgandal hacio ffonau.