Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod wedi i ddwsinau o anifeiliaid ddianc o barc natur, sy’n gartref i eirth a chathod mawr, yn yr Unol Daleithiau.
Mae swyddogion wedi saethu nifer o’r anifeiliaid sydd wedi crwydro, ond mae trigolion gerllaw yn cael eu rhybuddio i aros yn eu cartrefi.
Cafodd ffensys eu gadael heb eu diogelu ar Fferm Anifeiliaid Sir Muskingum yn Zenesville, Ohio, ac roedd cewyll yr anifeiliaid ar agor, meddai heddlu.
Roedden nhw’n gwrthod dweud yn union pa anifeiliaid oedd wedi dianc, ond mae’r parc yn gartref i lewod, teigrod, cheetah, bleiddiaid, jiraffod, camelod ac eirth.
Y gred yw bod eirth a bleiddiaid ymhlith y 25 anifail sydd wedi eu saethu, ac mae nifer o deithwyr yn dweud eu bod nhw wedi gweld anifeiliaid trofannol ar hyd y briffordd.
“Rhain yw’r math o anifeiliaid fyddech chi’n disgwyl eu gweld ar y teledu yn Affrica,” meddai’r Siryf Matt Lutz mewn cynhadledd i’r wasg.
Disgrifiodd yr anifeiliaid fel rhai “aeddfed, mawr iawn, a threisgar” ond dywedodd ei fod ar ddeall fod 48 o anifeiliaid y parc wedi cael eu bwydo ddydd Llun.
Dywedodd fod yr heddlu nawr yn cadw golwg ar y fferm 40 erw a’r ardal gyfagos mewn ceir, yn hytrach nag ar droed, a’u bod nhw’n bryderus am ddod ar draws cathod mawr ac eirth yn cuddio yn y tywyllwch.
Y Siryf Matt Lutz a phedwar dirprwy ddaeth o hyd i gorff perchennog y parc, Terry Thompson, a gweld bod y cewyll ar agor.
Roedd y siryf yn gwrthod dweud sut y cafodd Terry Thompson ei ladd, ond dywedodd fod nifer o anifeiliaid gwyllt ger ei gorff pan daeth ef o hyd iddo, ac fe fu’n rhaid eu saethu.
Does dim adroddiadau eto am unrhyw aelod o’r cyhoedd yn cael eu hanafu gan yr anifeiliaid hyn, ond mae’r Siryf Matt Lutz wedi dweud efallai y bydd yn gofyn i ysgolion aros ar gau am y diwrnod heddiw. Mae pedwar ysgol yn yr ardal eisoes wedi gohirio dosbarthiadau.