Darren Millar
Fe fydd grŵp aml-bleidiol yn dechrau ymgyrch yn y Senedd heddiw i wahardd rhieni rhag taro eu plant, ond mae’r mater wedi codi gwrychyn sawl un yn y blaid Geidwadol.
Mae’r Aelod Cynulliad Darren Millar wedi beirniadu’r cynnig, gan ddweud fod yn rhaid i rieni gael yr hawl i ddisgyblu eu plant mewn modd cyfrifol.
“Byddai gwahardd taro plant yn gwneud degau o filoedd o rieni cyfrifol a chariadus, sy’n defnyddio cerydd corfforol i ddisgyblu eu plant, yn droseddwyr,” meddai.
Y pedwar sydd wedi cynnig y newid yw ACau Llafur, Julie Morgan a Christine Chapman, AC Plaid Cymru, Lindsay Whittle, ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad Kirsty Williams.
Mae nhw wedi cynnig y newid er mwyn atal rhieni rhag defnyddio “cerydd cyfreithlon” fel yr amddiffyniad dros daro eu plentyn.
Yn ôl Lindsay Whittle mae’n “bwysig bod Cymru yn arwain fel un o wledydd mwyaf dyngarol y byd”.
“Mae 23 o wledydd eisoes wedi gwahardd taro plant,” meddai Lindsay Whittle wrth Golwg360, “a dwi’n siwr y byddai Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ein dilyn ni petai ni’n llwyddo i basio hyn.
“Mae gwarchod plant yn holl bwysig,” meddai, “ac mae gen i wrthwynebiad mawr i weld rhieni yn taro’u plant erioed.”
Nid dyma’r tro cyntaf i’r mater gael ei drafod yn y Cynulliad, ar ôl i ddadl arall ar y mater arwain at drafodaeth eang ar allu’r Cynulliad i ddeddfu yn y maes.