Fe fu gwrthdaro rhwng cefnogwyr, beiliaid a’r heddlu ar safle teithwyr Dale Farm wrth i’r gwaith o’u symud ddechrau bore ma.
Cafodd cerrig eu taflu at yr heddlu wrth iddyn nhw dorri baricedau i lawr ar y safle ger Basildon yn Essex.
Yn gynharach fe ddywedodd arweinydd cyngor Basildon Tony Ball na fyddai rhagor o drafodaethau am y mater.
Roedd y teithwyr a’u cefnogwyr wedi cloi eu hunain i mewn i’r safle neithiwr.
Fe gyrhaeddodd heddlu gwrthderfysg toc wedi 7am bore ma ond fe ddechreuodd y gwrthdaro ar ôl i’r heddlu dorri ffens er mwyn cael mynediad i’r safle.
Fe ddechreuodd y cefnogwyr godi baricedau o fewn y safle. Mae’r cyflenwad trydan wedi cael ei droi i ffwrdd ond dywed cefnogwyr bod hyn wedi golygu bod amryw o’r preswylwyr oedrannus wedi methu â defnyddio offer meddygol.
Mae nifer o gefnogwyr wedi cael eu harestio.