Mae dyn 49 oed wedi’i gael yn euog o lofruddio’i gariad 22 oed yn ei chartref yn Abertawe.
Fe ddaethpwyd o hyd i Sammy-Lee Lodwig ag anafiadau i’w gwddf a’i thalcen ar ôl i Jason Farrell ei thrywanu yn dilyn ffrae ar Ebrill 23.
Doedd e ddim yn cofio ei lladd, ond fe blediodd yn euog i’w dynladdiad gan wadu iddo ei llofruddio.
Fe glywodd Llys y Goron Abertawe fod y ddau wedi bod yn cymryd cyffuriau gan gynnwys heroin cyn ffrae fawr. Mae hefyd wedi’i gael yn euog o achosi niwed corfforol bwriadol i’w ffrind Christopher Maher, gan amau mai fe oedd cariad newydd Sammy-Lee Lodwig.
Fe fu Jason Farrell mewn perthynas â mam Sammy-Lee Lodwig yn y gorffennol.
Llythyr agored
Ar ôl cael ei arestio, ysgrifennodd Jason Farrell lythyr agored yn disgrifio’r hyn roedd e wedi’i wneud i Sammy-Lee Lodwig. Fe ddywedodd iddo ei chlymu a’i thrywanu droeon yn ei hwyneb a’i gwddf.
Dywedodd ei fod e wedi dweud wrth gymydog ei fod e wedi ei lladd hi, ac fe aeth â’r cymydog i weld ei chorff ar y gwely.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa cyn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener (Tachwedd 1).