Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau heddiw (dydd Llun, Hydref 28) mai corff y ferch Kianna Patton gafodd ei ddarganfod mewn adeilad gwag yn Noc Penfro yn Sir Benfro yr wythnos ddiwethaf.
Daeth swyddogion o hyd i’w chorff yn yr adeilad tua 4.45yp ddydd Iau diwethaf (Hydref 24) wrth chwilio am y ferch 16 oed oedd wedi bod ar goll.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn trin ei marwolaeth fel un anesboniadwy ar hyn o bryd.