Mae disgwyl y bydd llifogydd yn achosi trafferthion ar y ffyrdd ac yn difrodi cartrefi a busnesau yn sgil glaw trwm ar ddechrau’r penwythnos.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi uwchraddio ei rhybudd am law trwm ar gyfer Cymru i un oren mewn rhai mannau.
Roedd rhybudd melyn eisoes mewn grym ar gyfer pob rhan o Gymru o hanner dydd heddiw hyd nes un b’nawn dydd Sadwrn.
Ond mae rhybudd oren bellach wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o’r gorllewin a’r de rhwng 6 yr hwyr ddydd Gwener a 11 y bore dydd Sadwrn.
Gallai rhai ardaloedd dderbyn rhwng 60mm-80mm o law, yn ôl adroddiadau.