Mae annibyniaeth i Gymru wedi hawlio sylw’r bardd a’r dramodydd o’r Cymoedd, Patrick Jones, yn ei gasgliad diweddaraf o farddoniaeth.
Mae Renegade Psalms wedi ei gyhoeddi ar ffurf albwm, ac yn gyfuniad o eiriau’r bardd o’r Coed Duon a cherddoriaeth John Robb o’r Membranes.
Yn ôl Patrick Jones ei hun, mae’r albwm yn trafod ystod eang o bynciau “bob dydd”, gan gynnwys Brexit, y llymder ariannol a phrotestio.
Ac mae un gerdd yn benodol – ‘Soul Transplant / Trawsblaniad Enaid’ – wedi deillio o ddiddordeb diweddar y bardd yn yr ymgyrch i sicrhau annibyniaeth i Gymru.
“Dw i’n ei chael hi’n anodd i dderbyn unrhyw fath o genedlaetholdeb,” meddai Patrick Jones a oedd yn un o’r siaradwyr yn y Rali Annibyniaeth ym Merthyr Tudful fis Medi.
“Os ystyriwch chi genedlaetholdeb Seisnig, mae’n eithaf asgell-dde – mae’n Tommy Robinson; mae’n Nigel Farage.
“Ond yr hyn a welais i ym Merthyr yw bod cenedlaetholdeb Cymreig yn genedlaetholdeb rhyngwladol ac eangfrydig.”
Dysgu Cymraeg – “mae’n anodd iawn”
Yn ogystal â chlosio at genedlaetholdeb, mae Patrick Jones wedi mynd ati i ddechrau dysgu Cymraeg.
Dechreuodd ar yr her ychydig dros flwyddyn yn ôl, ond mae’n ddigon parod i gyfaddef mai proses “stop-start” yw hi ar hyn o bryd – er bod ei ddiddordeb yn yr iaith yn parhau.
“Roedd e’n addewid a wnes i oherwydd dw i wastad wedi teimlo rhyw euogrwydd mawr,” meddai. “Dw i’n teimlo’n euog nad ydw i byth wedi mynd ati i ddysgu’r iaith.
“Yn ystod fy magwraeth yn y Cymoedd yn ystod y 70au, doedd dim diwylliant nac ysgolion Cymraeg yn unman…”
“Mae gen i hefyd ddiddordeb mewn olrhain geiriau. Dw i hefyd yn hoffi cynnwys geiriau Cymraeg yn fy ngerddi yn ogystal â’u darganfod.”
Mae modd clywed Patrick Jones yn darllen detholiad o ‘Soul Transplant / Trawsblaniad Enaid’ yn fan hyn…
Barddoniaeth a cherddoriaeth
Renegade Psalms yw’r trydydd albwm i Patrick Jones ei greu mewn cydweithrediad â cherddor unigol neu grŵp o gerddorion.
Roedd Tongues for a Stammering Time, a ryddhawyd yn 2009, yn gywaith rhyngddo â grŵp eang o gerddorion, gan gynnwys ei frawd Nicky Wire o’r Manic Street Preachers; Billy Bragg, Martyn Joseph ac Amy Wadge.
“Mae barddoniaeth ar lafar yn fy niflasu i weithiau,” meddai Patrick Jones. “Dw i’n mynd i dipyn o ddarlleniadau ac yn cael llond bol ar fy llais fy hunan…
“Nid tincl yn y cefndir [yw’r gerddoriaeth]; mae’n mynd â’r geiriau i le sydd hyd yn oed yn fwy emosiynol.”