Mae un o gynghorwyr Caergybi yn dweud mai diffyg buddsoddiad yn niogelwch porthladd y dref yw’r rheswm pam y mae y mae lori oedd yn cario cyrff 39 o bobol fu farw, wedi llwyddo i basio trwy ogledd Cymru.
Heddiw (dydd Mercher, Hydref 23) mae Heddlu Essex yn ymchwilio i lofruddiaethau 39 o bobol y cariwyd eu cyrff yn ddi-rwystr o Ogledd Iwerddon, trwy borthladd Caergybi ac i lawr mor bell â Grays yn ne-ddwyrain Loegr.
“Mae’r peth yn sioc aruthrol, ond wedi dweud hynny, tra mae’r llywodraeth wedi rhoi lot fawr o bres i borthladd Dover, mae yna ddiffyg buddsoddiad wedi bod yn niogelwch porthladd Caergybi,” meddai Trefor Lloyd Hughes wrth golwg360.
“Mae’n rhaid cofio mai Caergybi ydi ail borthladd prysuraf y wlad yma, ac mae’n rhaid buddsoddi er mwyn cadw golwg ar bethau fel hyn yn iawn.”
Yn gynharach heddiw, ar wefan gymdeithasol Facebook, roedd Trefor Lloyd Hughes yn cydymdeimlo â theuluoedd y 39 o bobol a fu farw.
https://www.facebook.com/permalink.php?story_fbid=2641011995945203&id=100001092864286
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud nad ydyn nhw am wneud sylw ar hyn o bryd.