Mae’r RSPCA yn rhybuddio rhieni i feddwl yn ofalus cyn prynu anifeiliaid bychain i’w plant, gyda nifer yr anifeiliaid oedd yn gorfod cael eu hachub ar gynnydd y llynedd.
Ar gyfartaledd, fe wnaethon nhw achub mwy nag un anifail bach bob dydd.
Maen nhw’n dweud nad yw maint anifeiliaid bychain yn golygu o reidrwydd fod y gwaith o ofalu amdanyn nhw’n haws nag anifeiliaid mwy o faint, ac fe all rhai anifeiliaid fod ag anghenion cymhleth.
Mae’r RSPCA yn cynnal mis o ymgyrch i geisio dod o hyd i gartrefi newydd i anifeiliaid yn eu canolfannau, gyda’r pwyslais yr wythnos hon ar anifeiliaid bychain sydd wedi cael eu hesgeuluso.
Ymhlith y 388 o anifeiliaid bychain a gafodd eu hachub yng Nghymru y llynedd, cwningod oedd 142 ohonyn nhw, a Chasnewydd oedd yr ardal lle bu’n rhaid achub y nifer fwyaf o anifeiliaid bychain (103).
Fis diwethaf, daeth yr elusen o hyd i chwech o foch cwta mewn cwdyn Lidl yn y Barri, a hwnnw’n llawn gwastraff dynol, ac mae tri ohonyn nhw’n dal i aros am gartrefi newydd.
“Mae nifer o bobol yn meddwl fod yr RSPCA ond yn achub ac yn dod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer cathod a chŵn, ond dydy hynny ddim yn wir,” meddai Dr Jane Tyson o’r elusen.
“Rydyn ni’n gweld miloedd o anifeiliaid bach blewog yn dod i’n gofal bob blwyddyn ac yn aml, mae hyn o ganlyniad i anallu perchnogion i ymdopi â gofalu am yr anifeiliaid hyn yr oedden nhw’n meddwl y bydden nhw’n hawdd gofalu amdanyn nhw.”
Anifeiliaid sy’n chwilio am gartrefi newydd
Mae’r ganolfan yng Nghasnewydd yn chwilio am gartref newydd i nifer o’u hanifeiliaid.
Cwningen wen blwydd oed yw Marshmallow, sy’n hoff o gael digon o le i redeg o gwmpas a chwilota mewn llefydd newydd.
Mae’n hoff o faldod, sy’n ei wneud yn addas ar gyfer teuluoedd â phlant, ac fe allai gael ei gadw dan do pe bai digon o le.
Mae’r ffuredau Dexter ac Elmo hefyd yn chwilio am gartref newydd, gyda’r naill yn cael ei ddisgrifio fel anifail anwes chwareus ac addas i’r teulu, a’r llall yn ffured hwyliog sy’n hoffi chwilota a chael hwyl a sbri.
Mae gan ganolfan Bryn-Y-Maen nifer o gwningod – Frodo Hoppins, Rabbit De Niro a Marilyn Bunroe – a ffuredau – Hop, Skip a Jump.
Mae’r RSPCA hefyd yn gofyn i bobol roi arian i’w hymgyrch Adoptober – gallai cyn lleied â £1.50 helpu i roi cartref newydd i gath neu gi, meddai’r elusen.