Ymhlith y protestwyr sy’n ymgynnull ar ddiwrnod hanesyddol yn San Steffan heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 19) mae Steven Bray o Bort Talbot.
Wrth i aelodau seneddol gyfarfod ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers 37 o flynyddoedd, mae’r protestiwr 50 oed yn parhau i ddangos ei wyneb y tu allan i’r adeilad, fel y bu’n gwneud bob diwrnod o’r trafodaethau ers 25 mis.
Mae wedi dod yn adnabyddus am ei wisgoedd llachar, ac mae’n sefyll ymhlith y protestwyr eraill yn gwisgo siaced Jac yr Undeb, het fawr a throwsus baner yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’n dweud mai protestio yn erbyn Brexit yw ei brif ddiddordeb bellach.
“Fe wnaethon ni grafu gwaelod y gasgen gyda’r prif weinidog hwn,” meddai wrth ddatgan ei farn am Boris Johnson yn blwmp ac yn blaen.