Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau mai corff Brooke Morris gafodd ei ddarganfod yn Afon Taf ger Abercynon ddydd Mercher (Hydref 16).
Doedd Brooke Morris, 22 oed, o Drelewis heb gael ei gweld ers dydd Sadwrn, Hydref 12.
Bu’r heddlu’n chwilio afonydd yr ardal fel rhan o’u hymchwiliad i ddiflaniad Brooke Morris.
Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu ac mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal i geisio darganfod achos ei marwolaeth.
Mae swyddogion arbenigol yn parhau i roi cymorth i deulu Brooke Morris.