Bu farw un o hoelion wyth byd bandiau pres gogledd Cymru dros y Sul.

Roedd Hefin Goronwy Jones yn 73 oed, ac er iddo dreulio degawdau yn byw ym mhentref Llanrug, fe roddodd oes o waith yn chwarae’r cornet ac yn hyfforddi cenedlaethau o blant a phobol ifanc yn Seindorf Arian Deiniolen, ei bentref genedigol.

Nyrs yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, oedd Hefin Jones, a ddaliodd ati i weithio ymhell ar ôl oed ymddeol swyddogol. Dros y blynyddoedd, fe fu’n bresenoldeb annwyl ar ward y plant, ac yn gadarn a di-lol yn yr uned ddamweiniau.

Fe dreuliodd ei wythnosau olaf yn yr ysbyty hwnnw.

Mae Seindorf Arian Deiniolen, ei gyfeillion a chyn-ddisgyblion, wedi bod yn talu teyrnged i’r dyn oedd yn cael ei adnabod fel ‘Hefin Goronwy’ a ‘Hefs’.

https://www.facebook.com/95470178730/posts/10156993729873731/