Mae dyn 21 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn ymosodiad yn Abertawe fore heddiw (dydd Sul, Hydref 13).
Daethpwyd o hyd iddo yn Stryd Portland y ddinas am oddeutu 1.55yb.
Mae lle i gredu iddo gerdded o Sgwâr y Castell ar hyd Stryd Rhydychen i’r fan lle daeth aelodau’r cyhoedd o hyd iddo ag anafiadau.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Treforys yn y ddinas cyn cael ei drosglwyddo i’r ysbyty yng Nghaerdydd.
Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad, ac yn awyddus i glywed gan dystion.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.