Mae Mark Drakeford wedi ceryddu arweinydd Plaid Cymru am alw am “iawndaliadau” oddi wrth San Steffan.

Wrth annerch cynhadledd Plaid Cymru dros y penwythnos diwethaf, fe alwodd Adam Price ar i San Steffan dalu iawndaliadau – “reparations” yn Saesneg –  i Gymru yn dilyn canrifoedd o ormes.

Ond bellach mae Prif Weinidog Cymru wedi ei feirniadu am ddefnyddio iaith “iawndaliadau” (“reparations”) mewn ffordd “di-glem”.

Mae’r term ‘reparations’, yn y Saesneg, yn cael ei ddefnyddio gan amlaf yng nghyd-destun pobol croenddu sy’n gofyn am iawndaliadau yn sgil gormes caethwasanaeth.

A thrwy ddefnyddio’r term yma mae arweinydd Plaid Cymru wedi “anwybyddu cyfraniad Cymru at ymerodraeth”, yn ôl y Prif Weinidog.

“Gwrth-Seisnig”

Daw sylwadau Mark Drakeford wedi i’r Blaid alw am ymddiheuriad i sylwadau eraill ganddo.

Wrth siarad mewn digwyddiad neithiwr (Hydref 10), mi geryddodd Plaid Cymru am “geisio beio’r Saeson am yr holl bethau sydd yn ein hanfodloni ar hyn o bryd”.

Ymatebodd y Blaid i hynny trwy alw’r sylwadau yn “pathetig” a “sarhaus”, a gan alw arno i ymddiheuro, ond bellach mae’r Prif Weinidog wedi wfftio hynny.

Mae hefyd wedi cyhuddo Adam Price o “gyfeirio at ddyfyniad sydd â’r nod o annog teimladau gwrth-Seisnig”.

Cynnig gweledigaeth

“Dylai arweinyddiaeth Plaid Cymru adlewyrchu ar y llwybr maen nhw’n ei ddilyn,” meddai llefarydd y Blaid Lafur.

“Dyw’r mathau yma o genedlaetholdeb a phoblyddiaeth byth yn mynd i ddiogelu dyfodol i bobol Cymru maen nhw ei angen ac yn ei haeddu.

“Ar y llaw arall mae Mark Drakeford wedi cynnig gweledigaeth o Gymru lwyddiannus, o fewn Deyrnas Unedig sydd wedi ei ddiwygio, ac sydd wrth galon yr Undeb Ewropeaidd.”

Lansiodd y Prif Weinidog y weledigaeth yma yn ystod y digwyddiad ym Merthyr Tudful neithiwr.