Mae Undeb Amaetgwyr Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i ail-feddwl eu strategaeth difa moch daear.

Dangosa tystiolaeth o ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi heddiw (Hydref 11), fod difa moch daear yn gostwng y nifer o achosion y diciâu  mewn gwartheg.

Awgryma’r ymchwil i effeithiolrwydd difa moch daear yn Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf fod gostyngiad o 66% wedi bod mewn achosion o tuberculosis yn Swydd Gaerloyw a gostyngiad o 37% yng Ngwlad yr Haf.

Dywed Pennaeth Undeb Ffermwyr Cymru John Davies: “Mae’r ymchwil yma’n dystiolaeth glir o lwyddiant polisi Llywodraeth San Steffan i ddelio gyda tuberculosis.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau i newid eu polisi delio gyda tuberculosis nawr.”