Mae Heddlu De Cymru wedi cadaranhau fod dyn 37 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio gwraig ym Mhontypridd.

Roedd Brian Manship, hefyd o Bontypridd, wedi’i ddwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o ladd Sarah Hassall.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Ynadon Merthyr Tudful heddiw (dydd Mercher, Hydref 9).

Mae’r Prif Arolygydd sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad wedi diolch i’r gymuned leol am ei chefnogaeth a’i chydweithrediad wrth iddyn nhw edrych i mewn i’r achos hwn.

Mae swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n benodol i gynorthwyo teuluoedd, yn cefnogi teulu Sarah Hassall, a oedd yn hanu o ardal Chelmsford yn Essex.