Mae mudiadau Sustainable Fashion Wales a Chyfeillion y Ddaear Cymru yn galw ar sêr Cymru i wisgo’n ffasiynol mewn ffordd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.
Mae parti enwebiadau Bafta Cymru ar Hydref 13 a Gwobr Gerddoriaeth Gymreig y flwyddyn nesaf ymhlith y digwyddiadau sy’n cael eu hannog i “droi’r carped coch yn wyrdd” drwy wisgo dillad ffasiynol sy’n gynaliadwy.
Ymhlith y sêr sydd wedi derbyn yr her mae’r actorion Michael Sheen a Matthew Rhys.
Y sefyllfa
Mae allyriadau y diwydiant ffasiwn ar hyn o bryd yn cyfrannu at 10% o allyriadau cyfan y byd, o ganlyniad i gynhyrchiant ynni dwys a chadwyni cyflenwi maith.
Mae dillad yn achosi niwed amgylcheddol sydd yn gwaethygu wrth i brisiau dillad ostwng a chyflymdra eu hanfon at ddefnyddwyr gynyddu.
Gall un llwyth golchi o ffabrig polyester ryddhau hyd at 700,000 o ffibrau microplastigion i systemau dŵr.
Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Bangor eleni, mae microplastigion yn y deg llyn, afon a chronfa ddŵr y gwnaeth eu hymchwil ganolbwyntio arnyn nhw yng ngwledydd Prydain.
Daw plastigion i mewn i gadwyn fwyd gan ryddhau elfennau gwenwynig wrth iddyn nhw symud.
Caiff llawer o ddŵr ei ddefnyddio i gynhyrchu dillad, gydag ymchwil yn awgrymu fod angen rhwng 10,000 a 20,000 litr i gynhyrchu gwerth cilo o gotwm, sydd yn cyfateb i un crys neu bâr o jîns.
Mae hyn yn effeithio yn ddifrifol ar wledydd sydd yn datblygu, oherwydd ei fod yn achosi prinder dŵr.
Mae opsiynau mwy cynaliadwy er mwyn datrys y sefyllfa hon yn cynnwys defnyddio deunyddiau mwy cynaliadwy megis bambŵ, cywarch neu ddeunyddiau sydd wedi cael eu hailgylchu, ynghyd â dod i arfer â gwisgo dillad mwy nag unwaith yn unig.
Her ‘enfawr’
“Mae’r diwydiant ffasiwn yn fawr ac wedi ei ddosbarthu’n eang, felly mae gweithredu newid yn her enfawr!” meddai Eleni Morus o Gyfeillion y Ddaear Cymru.
“Os nad yw gofynion y cwsmer yn newid, nid yw’r diwydiant yn debygol o newid.