Mae’r cyn-bêl-doediwr, Dean Saunders, wedi llwyddo i osgoi cyfnod o garchar yn dilyn apêl lwyddiannus.
Roedd y gŵr 55 wedi apelio yn erbyn dedfryd a oedd yn cynnwys 10 wythnos o garchar ar ôl pledio’n euog i fethu â chymryd prawf anadl pan gafodd ei stopio gan yr heddlu yn ninas Caer ar Fai 10. Roedd yr heddlu yn amau ei fod yn gyrru o dan ddylanwad alcohol.
Treuliodd Dean Saunders ddim ond un diwrnod yn y carchar, cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth er mwyn iddo apelio yn erbyn y ddedfryd.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caer heddiw (dydd Gwener, Hydref 4), mae’r barnwr wedi dileu’r ddedfryd flaenorol, gan roi un newydd iddo yn lle sy’n cynnwys 10 wythnos o garchar wedi ei ohirio am ddeunaw mis.
Mae hefyd wedi cael ei orchymyn i gyflawni gwerth 200 awr o waith cymunedol di-dâl. Mae’r gwaharddiad rhag gyrru am 30 diwrnod yn dal i sefyll hefyd.
“Dw i wir yn difaru” – Dean Saunders
Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Rheolwyr y Gynghrair, mae Dean Saunders wedi ymddiheuro am ei weithredoedd.
“Fe wnes i benderfyniad gwael a dw i’n cael fy nghosbi’n gyfiawn amdano,” meddai. “Dw i wir yn difaru beth ddigwyddodd.
“Dw i’n derbyn fy mod i wedi cael cyfle gan y llys, a dw i’n gobeithio y gall pobol ddysgu o’u profiadau.
“Mae’r neges yn un syml – peidiwch byth ag yfed a gyrru.”