Mae Ken Owens o’r farn fod gan wrthwynebwyr nesaf Cymru yng Nghwpan y Byd “lot o X-ffactor.”
Byddai buddugoliaeth yn erbyn Ffiji yn sicrhau lle Cymru yn rownd yr wyth olaf gydag un gêm i sbario yn erbyn Wrwgwai.
“Rydyn ni’n hapus, ond mae’n rhaid i ni gadw’r momentwm i fynd,” meddai Ken Owens.
“Mae wedi bod yn grêt ennill y ddwy gêm gyntaf, ond dyw e’n meddwl dim os nad ydym yn ennill y ddwy gêm nesaf.”
Aeth ymlaen i frolio Ffiji, gan ddweud: “Mae gan Ffiji chwaraewyr gwych a lot o X-factor. Y neges fwyaf i ni yw stopio’r bygythiad yna a pheidio chwarae’r ffordd mae Ffiji eisiau chwarae.”
Bydd Cymru yn herio Ffiji am 10,45yb ddydd Mercher nesaf (Hydref 9)