Mae Heddlu’r De yn apelio am bedwar o dystion posib i lofruddiaeth dyn 54 oed yn Abertawe ar Orffennaf 18.

Bu farw Mark Bloomfield bedwar diwrnod ar ôl ffrwgwd y tu allan i dafarn y Full Moon ar Stryd Fawr y ddinas am oddeutu 3yp.

Mae dyn 61 oed wedi’i gyhuddo o’i lofruddio.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi cyfres o luniau camerâu cylch-cyfyng, ac yn chwilio am y bobol sy’n ymddangos yn y lluniau.Fe gyrhaeddodd dyn a dynes y ddinas o’r orsaf drenau o Paddington am 2.28yp ar Orffennaf 28.

O’r fan honno, aethon nhw i’r Full Moon cyn y digwyddiad.

Mae’r lluniau eraill yn dangos nifer o bobol y tu allan i’r dafarn ar adeg y ffrwgwd.

Dywed yr heddlu nad yw’r bobol yn y lluniau’n cael eu hamau o drosedd, ond fe all fod ganddyn nhw wybodaeth ddefnyddiol i’r ymchwiliad.