Daeth cadarnhad mai corff y nyrs 23 oed, Laurie Jayne Jones, a gafodd ei ddarganfod mewn car ddoe (dydd Mawrth, Hydref 1).
Roedd y nyrs bediatrig o’r Coed Duon wedi bod ar goll ers bore ddoe, a chafwyd hyd i’w char mewn afon ger ffordd B4251 yn ardal Wyllie. Roedd ei chorff y tu fewn i’r car.
Mae ei chorff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ac mae’r heddlu’n cefnogi ei theulu ar hyn o bryd, ac yn gofyn am breifatrwydd.
Dydy’r heddlu ddim yn trin ei marwolaeth fel un amheus.