Mae’r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion tywydd newydd ar gyfer Cymru yn yr oriau nesaf.

Roedd glaw trwm eisoes wedi achosi trafferthion yn ardaloedd y de a’r canolbarth dros y penwythnos, ac mae disgwyl i ragor o law ddisgyn yn ystod y prynhawn yma (dydd Llun, Medi 30).

Yn wreiddiol, roedd y rhybudd melyn mewn grym o 3yp ddydd Llun tan brynhawn Mawrth.

Ond bellach, mae’r rhybudd cyntaf mewn grym o 3yp tan hanner nos, ac fe fydd yr ail un yn weithredol o 6yb ddydd Mawrth tan 8yh.

Mae’r rhybuddion yn weithredol ar gyfer y cyfan o dde Cymru a rhannau o’r canolbarth.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus ar draethau, promenadau a llwybrau arfordirol.

Llifogydd a thirlithriad

Mae lefelau rhai o afonydd y de, gan gynnwys afonydd Tywi a Theifi, wedi bod yn beryglus o uchel oddi ar y penwythnos.

Ym Mhowys wedyn, mae’r cyngor sir yn dweud y bydd ffordd yr A490 ger Cegidfa ynghau am gryn amser wedi tirlithriad i’r ffordd fawr yno.

Digwyddodd y tirlithriad nid nepell o Barc Gwyliau Valley View, Pentre’r Beirdd, yn dilyn y glaw trwm ddydd Sul.

FIDEO O AFON TEIFI YN LLANBEDR PONT STEFFAN