Mae heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi damwain ffordd a laddodd dynes  am 9.20am fore ddoe.

Roedd car Ford Fiesta du yn teithio ar Ffordd Caerdydd rhwng Dinas Powys a’r Bari pan gafodd y ddynes 25 oed ei tharo tra’n cerdded ar hyd y ffordd.

Cafodd y ddynes ei chludo gan ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru, ond fe fu farw yn fuan wedyn.

Mae gyrrwr y Fiesta wedi cael ei arestio ac yn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad ar hyn o bryd.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar unwaith. Mae’r heddlu eisiau siarad gydag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a oedd yn teithio ar hyd y ffordd tua adeg y ddamwain.

Maen nhw’n awyddus iawn i siarad ag un seiclwr, a theithwyr mewn car lliw arian, a gafodd eu gweld yn mynd o’r Bari tuag at Ddinas Powys tua adeg y ddamwain.

Cafodd y ffordd ei gau am bron i bum awr wrth i’r heddlu gynnal eu hymchwiliadau a symud y cerbyd.