Mae Eiris Llywelyn yn dweud ei bod hi’n mynd i barhau i wrthod talu dirwy a gafodd am ei rhan yn yr ymgyrch i sicrhau pwerau darlledu i Gymru, er gwaethaf ymweliad gan feilïaid ychydig wythnosau yn ôl.
Ym mis Ebrill, cafodd y wraig 68 oed o Ffostrasol ei dyfarnu’n euog yn Llys Ynadon Aberystwyth o wrthod talu ei ffi drwydded deledu, cyn cael ei gorchymyn i dalu £220 mewn costau.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, hi oedd y trydydd unigolyn i fynd o flaen eu gwell am wrthod talu’r ffi drwydded deledu fel rhan o’r ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru, ond y cyntaf i ddatgan nad yw’n mynd i dalu’r gosb ariannol ac felly wynebu carchar.
“Dw i’n fodlon mynd â’r brotest i’r pen”
“Dw i’n bwriadu parhau i beidio â thalu a dw i’n fodlon wynebu’r canlyniadau,” meddai Eiris Llywelyn, sy’n wraig i’r ymgyrchydd, Emyr Llywelyn, a gafodd ei garcharu yn yr 1960au am ei ran yn yr ymgyrch yn erbyn boddi Cwm Tryweryn.
“Mae’r beilïaid wedi galw ac yn bwriadu cymryd fy eiddo y tro nesa’ ond dw i ddim yn mynd i adael iddyn nhw ddod i mewn i’r tŷ. Dw i’n fodlon mynd â’r brotest i’r pen er mwyn tynnu sylw at fater sydd o bwys aruthrol i’n cenedl.
“Byddai datganoli’r pwerau cyfathrebu a darlledu hyn er lles democratiaeth Cymru, yn ogystal â’r Gymraeg. Mae diffyg cynnwys Cymreig a Chymraeg ar y cyfryngau yn bygwth parhad hunanlywodraeth yng Nghymru, ac mae’n rhaid mynd i’r afael â’r mater.”
Safiad dros ddemocratiaeth
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, sy’n gyfrifol am yr ymgyrch datganoli pwerau darlledu, mae safiad Eiris Llywelyn yn “frwydr dros ddyfodol ein hiaith a’n cymunedau a dros ddemocratiaeth.”
“Mae democratiaeth yn amhosib os na fydd rheolaeth dros ddarlledu yng Nghymru yn symud o Lundain i Gaerdydd a’r cyfryngau yn adlewyrchu ein gwerthoedd a’n diwylliant ni a’n bod ni’n gweld y byd drwy ffenestr Gymreig,” meddai Heledd Gwyndaf ar yr ymgyrchwyr iaith.
“Mae datganoli’r system ddarlledu yr un mor bwysig â datganoli grym gwleidyddol.”