Mae teyrngedau wedi eu rhoi i feiciwr lleol a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Ngheredigion dros y penwythnos.

Bu farw Marcus John Heighton, 31, yn ystod y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd yr A484 ger Cenarth am tua 3.05yp ddydd Sadwrn (Medi 21).

Mewn teyrnged, mae ei deulu wedi ei ddisgrifio yn “bartner, tad, ŵyr, brawd, ewythr a nai annwyl”.

“Er gwaethaf yr ymdrechion gorau gan y gwasanaethau brys, fe gafodd ei gadarnhau yn farw yn y fan a’r lle,” meddai’r datganiad.

“Yn gyn-chwaraewr i Glwb Rygbi Aberteifi, roedd ‘Heights’ yn wybyddus i nifer ac yn cael ei garu o fewn y gymuned.

“Fe hoffwn ni, fel teulu, ddiolch i bawb sydd wedi anfon eu cydymdeimlad yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

“Cymeriad cofiadwy”

Mae Clwb Rygbi Aberteifi hefyd wedi cyhoeddi teyrnged i Marcus John Heighton.

“Dymuna’r clwb anfon ei gydymdeimlad at deulu a ffrindiau Marcus Heighton,” meddai’r clwb mewn datganiad ar wefan Facebook.

“Bu Marcus yn chwarae i ni am nifer o flynyddoedd, ac roedd yn gymeriad cofiadwy o fewn y clwb.”

“Fe fyddi di’n cael dy golli’n fawr, frawd.”