Fe lwyddodd Cymru i ddechrau eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd gyda chwe chais a phwynt bonws – ond fydd y rheolwyr ddim yn hollol hapus chwaith.

Am gyfnodau yn yr ail hanner, roedd blaenwyr Georgia yn ennill y frwydr ac fe arweiniodd hynny at ddau gais. Roedden nhw hefyd wedi gwrthrycio’n gry’ a dwyn y bêl fwy nag unwaith.

Ond, am rannau helaeth o’r hanner cynta’ – cyn i’r prif hyfforddwr Warren Gatland wneud rhes o newidiadau – roedd Cymru’n rheoli’n llwyr a’r lein, y sgrym a’r amddiffyn yn gweithio’n dda.

Yr ymateb

Ar ôl y gêm, fe ddywedodd y mewnwr Gareth Davies wrth S4C eu bod yn “hapus iawn” gyda’r fuddugoliaeth ac, yn arbennig, y perfformiad yn yr hanner cynta’.

Ond roedd yn cydnabod hefyd bod “lot o bethau gyda ni i weithio arno” o ran yr ail hanner.

Braidd yn flêr oedd yr ail hanner, meddai’r prif hyfforddwr Warren Gatland, ac roedd yna siom tros ildio dau gais, meddai’r asgellwr Josh Adams.

Cais ar ôl tri

Roedd y Cochion gais ar y blaen ar ôl dim ond tri munud ac wedi cael tri o fewn yr ugain munud cynta’, wrth iddyn nhw chwalu amddiffyn Georgia yn hawdd.

Fe ddaeth y pedwerydd cais a’r pwynt ychwanegol yn union cyn yr hanner, ar ôl 20 munud tawelach ac ychydig o bwysau ar eu hamddiffyn a’u pac.

Jon Davies a gafodd y cais cynta’ gan dorri trwodd yn hawdd ac, er i’r maswr  Dan Biggar daro’r trawst gyda chic yn union dan y pyst, roedd hi’n glir sur yr oedd pethau’n mynd.

5-0

Dau gais tebyg

Fe ddaeth y ddau gais nesa’ o symudiadau tebyg  iawn – Cymru yn ennill pêl gyflym o’r chwarae gosod, y maswr Dan Biggar yn pasio tu mewn a Josh Adams yn torri.

Y tro cynta’, fe arweiniodd hynny at gyfle i Justin Tipuric godi o ymyl sgarmes ac anfon amddiffyn Georgia y ffordd anghywir; yr ail dro, fe orffennodd Josh Adams y symudiad ei hun.

Fe wnaeth Dan Biggar iwan am ei flerwch cynnar gyda chicio perffaith.

22-0

Pwynt bonws

Am gyfnod, fe ddangosodd Georgia eu cryfder ymhlith y blaenwyr a rhoi rhywfaint o bwysau ar Gymru yn y sgrym ond doedd dim peryg gwirioneddol a’r bêl yn ara’.

Gydag Alun Wyn Jones yn rheoli’r lein ac yn cipio dwy oddi ar Georgia, fe ddangosodd proffesiynoldeb Cymru unwaith eto gyda munud i fynd – symud cyflym, bwlch gan Jon Davies a Liam Williams yn croesi yn y cornel.

Hanner amser 29-0 … a phwynt bonws.

Georgia a ddechreuodd yr ail hanner gan wthio trosodd o fewn dau funud – hynny ar ôl i Gymru ildio cic gosb ddiangen.

29-7

Wrth i nifer o eilyddion ddod ymlaen, roedd y chwarae’n llai trefnus a Georgia yn dechrau gwneud argraff, yn arbennig ymhlith y blaenwyr.

Ond, fel y dywedodd cyn-gapten Cymru, Gwyn Jones, ar S4C fe lwyddodd Cymru i barhau i sgorio, gyda George North yn rhoi cic letraws berffaith i’r mewnwr o eilydd, Tomos Williams, sgorio ger y pyst.

Er fod Georgia wedi taro’n ôl eto trwy gais blaenwyr gan y prop, Leva Chilachova, fe ddaeth cais clinigol arall i Gymru – y tro yma, Tomos Williams yn dawnsio ar yr ystlys yn creu ychydig o le i George North guro tri chwaraewr yn y gornel.

43-14