Mae tîm criced Morgannwg yn dechrau eu gêm Bencampwriaeth olaf heddiw, wrth iddyn nhw herio Durham am ddyrchafiad i’r adran gyntaf y tymor nesaf.

Llygedyn o obaith” sydd ganddyn nhw, yn ôl y capten Chris Cooke a’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.

Mae Swydd Gaerhirfryn eisoes wedi ennill dyrchafiad, a’r tebygolrwydd yw mai Swydd Gaerloyw a Swydd Northampton, sy’n wynebu ei gilydd ym Mryste, fydd yn codi o’r ail adran.

Roedd y golled yn ddiweddar yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn ergyd i obeithion Morgannwg, wrth iddyn nhw ddechrau’r gêm olaf yn y pedwerydd safle, gyda thair sir yn unig yn ennill dyrchafiad.

Fyddai buddugoliaeth ar ei phen ei hun ddim yn ddigon, ac fe fyddan nhw’n dibynnu ar ganlyniad y gêm rhwng Swydd Gaerloyw a Swydd Northampton i fynd o’u plaid, gyda gêm gyfartal yn yr ornest honno’n ddigon, o bosib, i rwystro Morgannwg.

Ar ddechrau’r gemau olaf, mae gan Morgannwg 160 o bwyntiau, Swydd Gaerloyw 176 a Swydd Northampton 181.

Mae 24 o bwyntiau ar gael yn y gêm olaf – 16 ar gyfer buddugoliaeth, ac wyth pwynt batio a bowlio ychwanegol.

Y timau

Mae un newid yng ngharfan Morgannwg ar gyfer y daith i Chester-le-Street yn Durham.

Mae’r bowliwr cyflym Marchant de Lange yn dychwelyd o anaf i gymryd lle’r chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith, sydd hefyd wedi cael anaf.

Mae Durham, sydd wedi’u hyfforddi gan gyn-chwaraewr tramor Morgannwg James Franklin, yn mynd am y pedwerydd safle, ar ôl i’w gobeithion o ddyrchafiad ddod i ben ar ôl colli yn erbyn Swydd Northampton yr wythnos ddiwethaf.

Yng ngharfan y Saeson mae’r batiwr 18 oed Sol Bell, sydd newydd sgorio canred i’r ail dîm, yn ogystal â’r wicedwr Stuart Poynter, sy’n dychwelyd i’r garfan.

Mae angen chwe wiced ar fowliwr cyflym Durham, Chris Rushworth i gyrraedd y garreg filltir o 500 o wicedi dosbarth cyntaf.

Gemau’r gorffennol

Mae Morgannwg yn teithio i gae Chester-le-Street, lle dydyn nhw ddim wedi ennill yn y Bencampwriaeth ers 2004, y tro diwethaf iddyn nhw ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf.

Colli o naw wiced oedd hanes Morgannwg y tro diwethaf iddyn nhw fynd yno, yn 2017, er i Nick Selman daro canred.

Tarodd Graham Clark yn ôl gyda chanred i Durham, cyn i Chris Rushworth a Barry McCarthy chwalu Morgannwg gyda’r bêl yn eu hail fatiad, a seliodd Stephen Cook a Cameron Steel y fuddugoliaeth wedyn gyda phartneriaeth o 158.

Yn 2004, ennillodd Morgannwg o 201 o rediadau ar ôl i Mike Powell daro 124, wrth i David Harrison ac Alex Wharf gipio pum wiced yr un i sicrhau buddugoliaeth o fewn tridiau.

Roedd Morgannwg yn fuddugol o ddeg wiced yn 2002 ac o 369 o rediadau yn 2003, gyda’r bowliwr cyflym o Awstralia, Mike Kasprowicz yn serennu wrth gipio cyfanswm o ugain wiced dros y ddwy gêm.

Yn yr ornest yn 2003, tarodd Mark Wallace, y cyfarwyddwr criced presennol, Mike Powell a Matthew Maynard, y prif hyfforddwr presennol, ganred yr un.

Carfan Durham: A Lees, C Steel, A Robson, BJ Watling, S Bell, J Burnham, G Harte, N Eckersley (capten), S Poynter, B Raine, B Carse, M Salisbury, N Rimmington, C Rushworth

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), N Selman, K Brathwaite, D Lloyd, S Patel, B Root, T Cullen, T van der Gugten, M de Lange, L Carey, M Hogan, A Salter, G Wagg.

Sgorfwrdd