Neuadd y Ddinas Abertawe
Cafodd dau o bobl eu hanafu wedi i fws fod mewn gwrthdrawiad â lori sgip ac wedyn daro yn erbyn dau gar a siop ynghanol Abertawe y bore yma.

Digwyddodd y ddamwain ar y cyffordd rhwng Stryd Rhydychen a Stryd y Traeth yn ardal Sandfields.

Roedd pedwar o deithwyr ar y bws gan gynnwys y gyrrwr. Roedd y bws rhif 2A newydd adael gorsaf fysiau’r dref.

Aethpwyd a dau deithiwr i ysbyty Treforys yn diodde o anafiadadau.

Bu’r ffyrdd ar gau am rai oriau ac mae’r heddlu yn ymchwilio i’r digwyddiad