Mae golwg360 yn deall bod twyllwyr yn dal i ddefnyddio rhifau ffôn y Cynulliad er mwyn cyflawni achosion o dwyll.
Ers rhai misoedd bellach mae’r twyllwyr wedi bod yn ffonio’r cyhoedd, ac i’r rheiny sydd yn ateb eu galwadau maen nhw’n clywed ffug neges gan adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM).
Mae recordiad o’r neges awtomatig bellach wedi dod i law golwg360, ac ynddi mae’r gwrandäwr yn cael ei gyhuddo o gyflawni trosedd, ac yn cael ei fygwth â charchar.
Yn aml mae aelodau’r cyhoedd yn methu’r alwad gan y twyllwyr ac yn galw’r rhif yn ôl, ond mae hyn yn eu cysylltu â staff y Cynulliad yn hytrach na’r twyllwr – dyna yw natur y twyll.
Mae aelodau staff y Cynulliad yn dal i dderbyn galwadau gan bobol sydd wedi methu galwadau’r twyllwyr, a phobol sy’n pryderu.
Ymateb y Cynulliad
Mae’n debyg bod y Cynulliad wedi cysylltu â’r awdurdodau perthnasol er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, ac ar eu gwefan maen nhw wedi cynnig geiriau o gyngor i’r cyhoedd.
“Yn anffodus, nid yw hyn yn gwbl gysylltiedig ag unrhyw un o’n systemau ac ni allwn atal hyn rhag digwydd,” meddai’r Cynulliad.
“Os ydych chi wedi derbyn un o’r galwadau hyn, peidiwch â ffonio’r rhif yn ôl. Os ydych chi’n pryderu, gallwch gysylltu ag Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.”
Diweddariad gan y Cynulliad
Mae llefarydd ar ran y Cynulliad wedi rhoi diweddariad ynghylch y mater ac wedi dweud mai “yn raddol” y bydd y sefyllfa’n gwella.
“Ers sawl mis bellach, rydym wedi bod yn gweithio gyda nifer o sefydliadau cenedlaethol, gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac Action Fraud, i unioni effeithiau sgam ffôn awtomataidd sydd yn targedu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi,” meddai.
“Mae [y rheoleiddiwr] OFCOM yn ganolog i’r ymdrechion hyn ac maen nhw wedi bod yn gweithio gyda phrif ddarparwyr ffôn y Deyrnas Unedig i osod cyfyngiadau technegol sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol.
“Nid yw ffynhonnell y galwadau sgam yn gysylltiedig ag unrhyw un o’n systemau ni ac, felly, rydym yn dibynnu ar gydweithrediad cwmnïau eraill i ddatrys y broblem. O ystyried fod angen i nifer o sefydliadau gyfrannu at y gwaith o’i ddatrys, rydym yn rhagweld mai yn raddol y bydd y sefyllfa’n gwella.
“Mae’r cyngor i’r cyhoedd yn parhau’r un fath, sef i drin unrhyw alwad ffôn o’r math yma gyda gofal, ac os oes unrhyw un yn poeni am gynnwys y negeseuon i gysylltu â’r llinellau cymorth swyddogol.”
Neges y twyllwyr
“Dyma alwad i’ch hysbysu bod achos twyll treth wedi’i gofrestru dan eich enw,” meddai’r neges. “Rhaid i chi wasgu [botwm] un er mwyn cysylltu â swyddog Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
“Os nad ydych yn gwasgu un, ac os nad yw eich galwad yn cael ei gysylltu â ni, fyddwn ni’n codi gwarant dan eich enw, a byddwch yn cael eich arestio yn fuan.”
Dyma glip sain o’r neges…