Yng nghanol yr holl wrthryfeloedd oedd yn digwydd ledled Ewrop yn nyddiau Owain Glyn Dŵr, roedd y tywysog Cymreig yn wahanol yn y ffaith nad gwrthryfel y werin oedd ei un ef, meddai Elin Jones.
“Chi’n cael sawl rhyfel, sawl gwrthryfel, yn ystod y cyfnod yna… felly dyw Glyn Dŵr ddim yn dod o unman. Mae e’n rhan o’i gyfnod… ond eto, yn wahanol hefyd. Roedd ei wrthryfel e yn un aruchel, yng nghanol y rhai o edd yn dod oddi wrth y werin bobol.
“Tra’r oedd y Jacquerie yn Ffrainc, lle trodd y bobol tlawd yn erbyn y meistri tir mewn dulliau creulon iawn, yn eu hanobaith; wedyn y Ciompi yn Fflorens; Wat Tyeler yn arwain y werin bobol yn Lloegr i ofyn am gyfiawnder ac am gefnogaeth yn erbyn y meistri tir oedd yn gormesu, cyn cael ei ladd gan Faer Llundain; wedyn yr Irmandino yn Galisia; heb sn am Transylfania…
“A dyna sy’n bwysig i ni gofio yn fan hyn – oedd y werin bobol yn mynd at y Brenin fel ffynhonnell cyfiawnder, a phrif arglwydd y wlad, i ofyn iddo, fel tad ei bobol, i’w helpu nhw yn eu hargyfwng. Oedden nhw ddim yn meddwl am sefydlu unrhyw beth i wrthsefyll y brenin, oedden nhw jyst yn gofyn wrth y brenin am gyfiawnder – fel yr oedd hawl gan bobol i wneud ers cwymp Ymherodraeth Rhufain, mae’n debyg,” meddai Elin Jones.
Fel plant
“Fel plant yn mynd at riant ac yn dweud ’dyw hyn ddim yn deg’ roedd y werin bobol yn mynd at y brenin ac yn gofyn am gymorth yn eu hargyfwng ac yn eu gormes, ac yn mynegi mai dim ond y brenin fyddai’n gallu eu helpu nhw, fel tad eu pobool,” meddai eto.
“Roedd Glyn Dŵr yn wahanol iawn, gan fod ganddo fe ei gynllun ei hunan, a dyna lle’r oedd e’n wladweinydd, a dyna lle chi’n teimlo ei fod e’n gweld yr egwyddorion allai ysbrydoli ein cwricwlwm newydd ni yn cael eu gweithredu gan Glyn Dŵr.
“Oedd e ddim yn gofyn am chwarae teg, oedd e ddim yn mynd at y brenin ac yn gofyn, ‘Plis helpwch ni’, oedd e’n dweud, ‘Dyma beth ydyn ni moyn’. Roedd e’n dweud ‘Fi yw tywysog Cymru’, fi yw ffynhonnell cyfiawnder, fi yw pen y wlad yma… fe ddewisodd e arfbais tywysogion Gwynedd, i ddangos parhad awdurdod a grym a chyfiawnder, a’i fod yn olynydd i rai oedd â hawl a chyfiawnder…
“Gwrthryfel aruchel oedd un Glyn Dŵr. Roedd ei uchelgais tros Gymru, yr eglwys, ei haddysg a’i hiaith, yn dod gan dywysog.”