Gwaith Laura Edmunds
Laura Edmunds, sydd bellach yn gweithio yng Nghaerdydd yw enillydd cyntaf Gwobr Jane Phillips er cof am gyfarwyddwr cyntaf y Mission Gallery yn Abertawe.

Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu er mwyn hybu a datblygu artisitiad ifanc yn y celfyddydau gweledol a chymhwysol ac yn cynnwys £1000 a chyfnod o chwe mis fel artist preswyl yn ogystal a chefnogaeth a mentoriaeth gan aristiaid proffesiynol.

Graddiodd Laura mewn BA Cynllunio Patrymau Arwynebedd ar gyfer Celfyddyd Cymwyhsol Cyfoes eleni o Brifysgol Metropolitan Abertawe. Cafodd ei henwebu gan ei thiwtor ddywedodd y bydd y wobr yn sicr o wneud gwahaniaeth iddi.

“ Fe fydd ennill yn golygu y bydd ganddi’r amser a’r rhyddid i ddatblygu ei gwaith sydd o’i hanfod yn dyner, distaw, sensitif a thlws,” meddai Linda Nottingham.

Fe fydd Laura yn cychwyn fel artist preswyl yn Swansea Studios yn Abertawe ar 1 Tachwedd