Mae angen mwy o eglurder ynglŷn â sut mae Llywodraeth Prydain yn paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, yn ôl undeb ffermwyr.
Daw’r alwad ar ôl i Aelodau Seneddol orfodi Llywodraeth Prydain i gyhoeddi adroddiad ‘Ymgyrch Yellowhammer’, sy’n cynnwys rhybuddion am yr hyn a all ddigwydd yn sgil Brexit o’r fath.
Yn yr adroddiad mae proffwydo y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar Hydref 31 arwain at brotestiadau, oedi mewn porthladdoedd, a diffyg bwyd a meddyginiaeth.
Yn ôl Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, y diwydiant amaeth fydd yn cael ei “daro waethaf” yn sgîl y peryglon hyn.
Galw am eglurder
“Mae’r peryglon sy’n cael eu hamlinellu yn y ddogfen yn adlewyrchu’r hyn mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn rhybuddio yn ei gylch ers y refferendwm Brexit,” meddai Glyn Roberts.
“Mae’n iawn bod Llywodraeth Prydain yn ystyried effeithiau o’r fath ac wedi eu casglu ynghyd mewn adroddiad.
“Fodd bynnag, o ystyried addewid y Prif Weinidog i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31 heb gytundeb os na fydd un yn cael ei gadarnhau, mae’n hanfodol bod manylion ynglŷn â sut mae’r Llywodraeth yn ymateb i’r peryglon hyn yn cael eu cyhoeddi.”
Llywodraeth Cymru: angen mwy o drafod
Mae’r undeb hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru gynnal mwy o drafodaethau gyda rhanddeiliaid ynglŷn ag “ystod eang” o beryglon sy’n wynebu’r diwydiant amaeth yn sgîl Brexit heb gytundeb.
Yn eu plith mae diffyg meddyginiaeth anifeiliaid a cholli marchnadoedd ar gyfer cynnyrch.
“Er ein bod ni’n croesawu’r trafodaethau ynglŷn ag effaith tollau ar y diwydiant defaid, rydym eisoes wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at restr hir o broblemau eraill sydd angen cael eu trafod,” ychwanega Glyn Roberts.