Mae’r gantores fyd enwog Adele Layrie Blue Adkins wedi gofyn am gael ysgaru Simon Konecki.
Fe fuon nhw yn briod am dair blynedd ac mae’r gantores wedi cyflwyno cais i lys yn Los Angeles i gael gwahanu yn ffurfiol.
Mae ganddyn nhw fab o’r enw Angelo a gafodd ei eni yn 2012.
Ers cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o ganeuon, 19, yn 2008 mae Adele wedi mwynhau llwyddiant ysgubol gyda chaneuon cignoeth am gariad a cholled.
Mark Evans o Benarth yw ei thad, ond fe adawodd y cartref teuluol pan oedd Adele yn ddwy oed ac mae’r berthynas rhwng y ddau yn un stormus.