Mae yna ormod o ffyrdd gwahanol o drin pobol hŷn sydd wedi cwympo, yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Ymchwil i’r gwasanaeth sydd ar gael i bobol dros 65 oed yng Nghymru, yw ‘Cymru: Adolygiad o Ofal Integredig’  ac mae’n nodi bod angen i wasanaethau weithio’n well gyda’i gilydd.

Mae’r adroddiad yn cynnig wyth argymhelliad, yn galw am ddod â chysondeb i’r gwasanaeth ledled Cymru, ac yn annog byrddau iechyd i gydweithio â’u cynghorau lleol.

“Mater i bawb”

“Mater i bawb yw cwympiadau,” meddai Stuart Fitzgerald, Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Mae cwympiadau’n effeithio ar nifer o bobl hŷn a bydd triniaeth a gofal ail-alluogi mwy cyd-gysylltiedig yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl hŷn sy’n cwympo ac yn cynnal ansawdd eu bywyd.”

Yn ôl  AGIC, mae traean o bobol dros 65 oed, a hanner pobol dros 80 oed, yn debygol o gwympo dros y flwyddyn nesaf.