Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng cerddwr a beic modur yn Llanybydder yn Sir Gaerfyrddin ar ddechrau’r wythnos (dydd Llun, Medi 9).

Yn ôl y llu, roedd yr henwr yn croesi Ffordd Llanbedr Pont Steffan, ger Swyddfa’r Post, pan gafodd ei daro gan feiciwr modur am 3.30yp.

Fe dorrodd y dyn ei goes yn ystod y digwyddiad, ac mae’n dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Mae disgwyl i’r beiciwr modur, a oedd yn teithio i gyfeiriad Sgwâr Llanybydder, gael ei holi yn fuan, meddai’r heddlu ymhellach.

Maen nhw hefyd yn dweud y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar unwaith ar y rhif, 101.