Mae saith coeden yn y ras eleni i gael eu henwi’n Goeden Gymreig y Flwyddyn.

Coed Cadw sy’n trefnu’r gystadleuaeth flynyddol, ac mae’r rhestr fer yn cynnwys dwy goeden yng Nghaerdydd, un yn Noc Penfro ac un arall yn y Drenewydd.

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar ddiwedd pleidlais gyhoeddus ar wefan Coed Cadw, www.woodlandtrust.org.uk/treeoftheyear.

Yn cefnogi’r gystadleuaeth eleni mae David Domoney, y garddwr a phersonoliaeth deledu adnabyddus.

“Mae Coeden y Flwyddyn Coed Cadw yn dathlu rhyfeddod a harddwch coed yn ein gwlad,” meddai.

“Maen nhw’n rhan mor bwysig o’n dinasoed a chefn gwlad, nid yn unig am eu harddwch, ond hefyd am y buddion iechyd maen nhw’n eu cynnig i bob creadur byw.

“Mae dewis un goeden sy’n sefyll allan o’r gweddill yn benderfyniad caled, edrychwch drosoch eich hun.”

 ‘Amlygu a dathlu ein coed mwyaf rhyfeddol ac arbennig’

“Mae cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn Cymru a’i bryd ar amlygu a dathlu ein coed mwyaf rhyfeddol ac arbennig,” meddai Natalie Buttriss, cyfarwyddwr Cymru Coed Cadw.

“Mae gennym nifer wych o goed hynafol a llawer o goed trefol nodedig.”

Mae’n dweud bod y gystadleuaeth yn bwysig er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod coed dan fygythiad o gael eu cwympo “oherwydd datblygiadau amhriodol”.

“Mae cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn Cymru a’i bryd ar helpu i godi proffil coed er mwyn cynnig gwell amddiffyniad iddynt,” meddai.

“Mae pob un o’n coed ar y rhestr fer yn edrych yn anhygoel ac mae gan bob un ohonyn nhw stori ddifyr i’w hadrodd.

“Rydyn ni’n siŵr y bydd y cyhoedd yn dangos eu hangerdd ac yn cefnogi eu hoff un.”

Yn ogystal, fe fydd gwobr gofal coed gwerth £1,000 yn cael ei chynnig i’r goeden fuddugol ym mhob un o wledydd Prydain, gyda’r arian ar gael i’w wario ar wella iechyd y goeden, arwyddion neu i ddathlu’r goeden yn y gymuned.

Bydd y goeden sy’n cyrraedd yr ail safle yn ennill £500 i’w chymuned.

Y rhestr fer

  • Palalwyfen Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd
  • Derwen Cefn Mabli, Llanfihangel-y-fedw ger Casnewydd
  • Palalwyfen Coed Prisk, Dyffryn Gwy
  • Ceiriosen Stryd y Rheilffordd, Y Sblot, Caerdydd
  • Poplys du, Y Drenewydd
  • Hen gastanwydden, Pont-y-pŵl
  • Ginkgo, Doc Penfro