Mae gweddi arbennig wedi cael ei llunio gan yr Annibynwyr yn galw am “ddoethineb a phwyll” yn wyneb Brexit.
Fe fydd y weddi’n cael ei dosbarthu i 400 o gapeli ledled Cymru.
“Mae’r dryswch presennol yn achosi rhwystredigaeth a dicter,” meddai’r Parchedig Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.
“Fel Cristnogion, mae dyletswydd arnom i weddïo y bydd pobol yn ymarfer goddefgarwch a pharch tuag at y rhai sydd â barn wahanol.”
Y weddi
Mae’r weddi’n amlinellu “cyfnod o ansicrwydd brawychus yn hanes ein gwlad, ein cyfandir a’n byd”.
Fe ddywed ein bod yn byw mewn “dyddiau dieithr” sy’n “achosi penbleth a dryswch cynyddol” a “rhwystredigaeth ddig ac ymosodol mor fynych”.
Mae’n ymbil ar i Dduw “blannu ynom ddoethineb a phwyll ynghyd â chariad”, ac i “lanw ni ag ewyllys da” a’n “helpu ni i ymarfer goddefgarwch ac i roddi i eraill… y parch sy’n ddyledus i bob un”.
Mae’n gorffen drwy ddweud bod “bywyd yn ei holl gyfiawnder yn eiddo i bawb yn ddi-wahan”.