Mae ymchwiliad i farwolaeth carcharor tra dan glo yng Ngharchar Abertawe wedi arwain at newid polisi’r heddlu ar draws Cymru a Lloegr.

Fe gafodd Peter Murphy ei ddarganfod yn crogi yn ei gell yn oriau mân y bore ar 12 Mai 2009. Mae ymchwilad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn dilyn ei farwolaeth wedi darganfod diffygion o fewn systemau’r heddlu – diffygion a fyddai efallai wedi gallu atal ei farwolaeth.

Daeth yr incwest i farwolaeth Peter Murphy i ben yn Llys y Crwner Abertawe heddiw gyda rheithfarn agored. Ond yn ystod yr incwest, fe fu’r rheithgor yn feirniadol iawn o’r gwasanaeth heddlu a charchardai.

Mae’r ymchwiliad wedi darganfod bod Heddlu’r De wedi methu â sicrhau bod y gwasanaeth carchardai yn gwybod bod Peter Murphy wedi ceisio crogi ei hun unwaith o’r blaen tra yn y ddalfa, nac ychwaith ei fod yn derbyn meddyginiaeth er mwyn ceisio’i helpu i ymdopi heb heroin ers cael ei roi yn y ddalfa.

Yn ôl Tom Davies, Comisiynydd Cymru ar Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, roedd gan yr heddlu “ddyletswydd o ofal dros y dyn ifanc” wrth iddo gael ei drosglwyddo i’r carchar.

“Doedd yr wybodaeth bod Mr Murphy eisoes wedi ceisio crogi ei hun tra dan ofal yr heddlu ddim wedi cael ei roi i’r gwasanaeth carchardai,” meddai’r Comisiynydd.

“Mae rhingyll y ddalfa ar y pryd, a oedd yn gyfrifol, yn y pendraw, am sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei basio ymlaen, wedi derbyn cyngor rheoli.

“Mae dysgu gwersi o drasiediau fel hyn yn bwysig,” ychwanegodd Tom Davies, “ac mae newidiadau pwysig wedi cael eu gwneud i’r ffurflen genedlaethol sy’n delio â phrosesau trosglwyddo carcharorion o ofal yr heddlu i garchardai.”

Ychwanegodd ei fod yn “cydymdeimlo’n fawr â theulu a ffrindiau Mr Murphy” yn sgil ei farwolaeth.