Bydd cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn cyflwyno deiseb i’r Cynulliad ddydd Mawrth nesaf yn gofyn am ail-gyflwyno cofnodion dwyieithog o’r trafodaethau – llai na blwyddyn a hanner ers i Dafydd Elis-Thomas arwain y gad o ran diddymu’r dwyieithrwydd.

 Yn ôl Owen John Thomas mae angen cofnodion dwyieithog o gyfarfodydd y Cynulliad er mwyn sicrhau nad “egwyddor gwag” yw cydraddoldeb y Gymraeg a’r Saesneg yn y Cynulliad.

Mae ei sylwadau, a’i fwriad i gyflwyno deiseb sy’n dilyn ymgyrch gan Cymdeithas yr Iaith i adfer y cofnodion dwyieithog, yn mynd yn erbyn argymhelliad Comisiwn y Cynulliad y llynedd, a gadeiriwyd gan AC Plaid Cymru Dafydd Elis Thomas.

Ond mae Owen John Thomas yn mynnu mai ef sy’n cynrychioli barn rhan fwyaf y blaid – ac o bosib barn Dafydd Elis Thomas ei hun erbyn hyn.

“Byddai’n ddiddorol petai ti’n gofyn iddo fe erbyn hyn os yw e’n dal i gredu nad oes angen cofnodion dwyieithog,” meddai Owen John Thomas.

“Mae Dafydd yn berson sydd yn newid ei safbwyntiau o bryd i’w gilydd.”

Yn ôl Owen John Thomas fe fydd y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad, ac ymgeisyddiaeth Dafydd Elis Thomas am arweinyddiaeth y Blaid yn siwr o fod wedi dylanwadu rhywfaint ar ei gasgliadau flwyddyn a hanner yn ôl.

 “Fe fydd e’n troi a throsi i osgoi rhoi ateb,” meddai Owen John Thomas, ond mae’n cyfaddef nad yw ef wedi holi cyn-Lywydd y Cynulliad am y mater ei hun, ers i’r Comisiwn gyhoeddi eu penderfyniad fis Mai diwethaf.

Fe fydd Owen John Thomas a’r Archdderwydd T.James Jones yn cyflwyno’r ddeiseb, sy’n cynnwys 1,500 o lofnodion, i Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad ddydd Mawrth nesaf.