Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i yrrwr beic modur gael ei ladd mewn gwrthdrawiad yn Abertawe ddoe (dydd Sadwrn, Awst 24).
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Ford Galaxy lliw arian a beic modur Kawasaki am oddeutu 5.20yp.
Bu farw gyrrwr 50 oed y beic modur yn y fan a’r lle, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.
Cafodd gyrrwr 29 oed y Ford Galaxy, sy’n dod o Swydd Gaerloyw, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, ac mae e’n cael ei holi yn y ddalfa.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.