Mae Gogerddan ger Aberystwyth wedi torri’r record am yr ŵyl banc Awst boethaf erioed yng Nghymru.
Mae’r tymheredd yno wedi codi i 27.4 gradd selsiws, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae’n trechu’r record flaenorol o 27.3 ym mhentref Felindre ym Mhowys yn 2013.
Mae’r RAC yn rhybuddio pobol i fynd â digon o ddŵr a bwyd gyda nhw os ydyn nhw’n teithio mewn ceir, ac i gymryd brêc yn rheolaidd yn ystod unrhyw daith.