Mae Liz Saville Roberts yn dweud na fyddai hi’n barod i arwain llywodraeth dros dro yn San Steffan pe bai’n dod i hynny er mwyn datrys sefyllfa Brexit.
Roedd hi’n un o griw dethol o aelodau seneddol a gafodd eu crybwyll gan Caroline Lucas, arweinydd y Blaid Werdd, wrth iddi awgrymu cabinet o ferched yn unig i ddisodli Boris Johnson, prif weinidog Prydain, o’i swydd.
Mae llywodraeth debyg yn cael ei chrybwyll hefyd gan Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, sy’n awgrymu y gallai e arwain trefniant o’r fath.
“Dwi’n gynrychiolydd o blaid genedlaetholgar Plaid Cymru, felly na, fyddwn i ddim,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360 am y posibilrwydd y byddai hi’n barod i arwain llywodraeth o undeb cenedlaethol.
“Dwi ddim yn meddwl fod neb yn mynd i fod yn ddigon dychmygus i gynnig fy enw i chwaith.
“Mae ’na bobol well o lawer na fi fyddai’n gallu tynnu cytundeb o bob ochr o’r Tŷ.”
Yr arweinydd delfrydol
Ar ôl wfftio’r awgrym y gallai hi arwain llywodraeth o undeb cenedlaethol, mae Liz Saville Roberts yn dweud bod rhaid i arweinydd o dan y fath drefniant allu denu cefnogaeth o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol.
Nid Jeremy Corbyn fyddai’r person hwnnw yn ôl pob tebyg, meddai wedyn.
“Mae rhywun yn edrych ar arweinydd sydd yn gallu denu hyder o bob cyfeiriad.
“Yn anffodus, er y byddwn i’n hollol barod i siarad efo Jeremy Corbyn, mae i’w weld fod y niferoedd ddim yna o du rebeliaid y Blaid Geidwadol ac o bleidiau eraill yn ogystal.
“Os bydd rhywun yn cael ei gynnig fel prif weinidog ar lywodraeth dros dro at bwrpas atal gadael heb gytundeb, o’m rhan i wedyn, ail refferendwm fyddai’r ateb, ac wedyn hwyrach etholiad cyffredinol.
“Ond mae’n rhaid i hwnnw neu honno fod yn rhywun sy’n gallu dod â’r gwleidyddion ac aelodau seneddol o bob tu o’r Tŷ at ei gilydd.”
Galw’r senedd yn ei hôl
Daw sylwadau Liz Saville Roberts wrth iddi hi ac oddeutu 100 o aelodau seneddol o nifer o bleidiau gwleidyddol alw ar San Steffan i ddod yn ôl at ei gilydd ac eistedd hyd nes y bydd dyddiad Brexit, Hydref 31, yn mynd heibio.
“Mae’n amlwg ein bod ni’n wynebu sefyllfa argyfyngus ac mae Adam [Price], fel arweinydd Plaid Cymru, a finna wedi galw amdano fo’n barod bod y ddwy senedd, San Steffan a Chaerdydd, yn cael eu galw’n ôl i gael barn aelodau yn dorfol ac i fynegi barn o Gaerdydd am effaith botensial debyg gadael yn ddi-drefn llwyr fel y byddai mynd heb gytundeb.
“Ac ar adeg o’r fath, mae i’w weld yn fethiant o ran ein trefniant democrataidd ni fod yr aelodau sy’n cynrychioli ardaloedd y Deyrnas Gyfunol ddim yn cael gweithio ar ddatrys yr hyn sy’n cael ei fygwth arnon ni gan y prif weinidog a’i gymorthyddion.”
‘Yr argyfwng gwleidyddol mwyaf o fewn cenhedlaeth’
Mae’n dweud ein bod ni’n “debygol o fynd i’r argyfwng gwleidyddol mwyaf i Gymru a’r Deyrnas Gyfunol o fewn ein cenhedlaeth ni” pe bai Brexit yn digwydd heb gytundeb.
“Rydan ni’n gadael i’r prif weinidog drin hyn fel rhyw fath o gêm drwy’r cyfryngau, gyda Dominic Cummings yn trin y potensial o fynd allan heb gytundeb fel gêm.”
Mae’n dweud nad oes gan Boris Johnson fandad fel prif weinidog, a bod angen ei atal rhag arwain y broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
“Sgynno fo ddim mandad, ond mae ’na fygythiad fod o’n mynd i gau’r senedd i lawr, fod o’n mynd i gymryd y pwerau democrataidd yn eu hôl mewn rhyw fath o coup d’etat cwbl annemocrataidd ar adeg pan ddylai’r senedd fod yn gallu gweithredu rŵan hyn fel bo ni ddim yn gwastraffu Awst i gyd.
“Dydy o ddim yn adeg i ni fod yn chwarae gemau efo’r cyfryngau.
“Dydy o ddim yn gyfnod i ni fod yn siarad efo’n gilydd o fewn ein pleidiau.
“Mae ’na argyfwng fan hyn, ac mae rhywun yn gofyn i’r sefydliadau sydd gennon ni i wasanaethu a gweini gwleidyddiaeth i fod yn weithredol yn hytrach na bod yn segur.”