Dydy’r alwad am ail-alw’r Senedd i eistedd yn San Steffan i drafod Brexit “ddim yn rhywbeth anarferol”, yn ôl Jonathan Edwards, aelod seneddol Plaid Cymru.
Fe fu’n siarad â golwg360 ar ôl i 100 o aelodau seneddol, gan gynnwys holl aelodau seneddol ei blaid ei hun, anfon llythyr at Boris Johnson yn galw am ddod â gwyliau’r haf i ben er mwyn ail-afael yn y trafodaethau.
Mae’r llythyr yn galw am sicrhau bod y Senedd yn dychwelyd ac yn aros yn ei lle tan Hydref 31, y dyddiad sydd wedi cael ei bennu ar gyfer ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd.
“Fe wnaeth Adam Price a Liz Saville Roberts alw am hyn ddechrau’r wythnos, felly mae’n dda gweld bod aelodau seneddol eraill nawr yn dechrau ymuno gyda’r alwad,” meddai Jonathan Edwards.
“Y gwirionedd yw ein bod ni ynghanol yr argyfwng gwleidyddol mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd, siŵr o fod.
“Mae’n rhyfedd o beth fod San Steffan ddim yn eistedd, oherwydd un o’r ffyrdd o ddatrys yr argyfwng, wrth gwrs, yw trwy’r llwybr deddfwriaethol ond er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i’r Senedd fod yn eistedd.
“Nawr ry’n ni’n cael blas mwy clir ar beth yw amcanion llywodraeth Boris Johnson, mae’n amlwg fod angen i farn Tŷ’r Cyffredin gael ei brofi ar yr hyn maen nhw’n awr yn ei gynnig.”
Ail-alw’r Senedd ar achlysuron eraill
Cafodd Jonathan Edwards ei ethol yn Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn 2010.
Ers hynny, meddai, mae’r Senedd wedi cael ei galw’n ei hôl sawl gwaith.
“Dyw e ddim yn rhywbeth anarferol. Rwy’n cofio’r Senedd yn cael ei hail-alw un haf oherwydd terfysgaeth yn Lloegr, ac adeg arall lle’r oedd cyrch arall yn y Dwyrain Canol, ac rwy’n cofio y cafodd San Steffan ei hail-alw bryd hynny.
“Bydden i’n dweud bod y mater sy’n ein hwynebu ni nawr yn llawer mwy difrifol na hynny.”
Ond mae’n dweud nad yw galw’r Senedd yn ei hôl o fudd i’r Llywodraeth Geidwadol bresennol o dan Boris Johnson.
“Nhw sy’n gyfrifol am Dy’r Cyffredin a phryd mae’n eistedd a beth sy’n cael ei drafod, a’r gwirionedd yw, er taw slogan Brexit oedd ‘Take Back Control’, dyw e ddim o ddiddordeb i Lywodraeth Prydain i ddilyn polisi lle, yn fy marn i, does dim gyda nhw cefnogaeth aelodau seneddol i gael aelodau seneddol yn Llundain yn medru ymyrryd yn eu hamcanion. Dyna pam fydden nhw ddim yn debygol o gytuno.”
Dim cytundeb yn ‘hollol, hollol anghyfrifol’
Yn ôl Jonathan Edwards, mae derbyn polisi ‘Dim Cytundeb’ fel un o’r posibiliadau yn y pen draw yn “hollol, hollol anghyfrifol” ac fe fyddai’n “creu pob math o broblemau economaidd”.
Ei bryder mwyaf, meddai, yw’r diffyg nwyddau meddygol sy’n cael ei ddarogan ac mae sefyllfa o’r fath yn golygu nad yw unrhyw un sy’n ei harddel “yn ffit ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus”.
“Mae’n bolisi mor anghyfrifol, fel y dylen nhw gael eu neilltuo o unrhyw wasanaeth cyhoeddus oherwydd dydyn nhw ddim yn ffit.”
‘Argyfwng rhyfeddol’
Mae’n dweud bod “argyfwng rhyfeddol” ar droed, “lle gall unrhyw beth ddigwydd” a bod hynny’n tanlinellu’r angen am lywodraeth unoledig – rhywbeth y mae wedi bod yn galw amdani ers tro.
“Rwy’n credu bod angen ffeindio ffigwr sy’n gallu magu hyder ar draws Tŷ’r Cyffredin.
“Roedd Jeremy Corbyn dweud ei fod e’n erbyn llywodraeth unoledig ond nawr mae’n galw pawb i’w gefnogi fe. Does dim problem gen i os taw Jeremy Corbyn yw e.
“Y cwestiwn mawr yw beth yw’r polisi? Os taw’r polisi yw pleidlais diffyg hyder, atal ‘Dim Cytundeb’, estyn Erthygl 50 a mynd i refferendwm, wel dwi’n cefnogi hynny.
“Dyw personoliaeth ddim yn bwysig i fi. Beth sy’n bwysig yw’r polisi.”
Jeremy Corbyn fel arweinydd dros dro?
Yn ôl Jonathan Edwards, yr unig ganlyniad sy’n dderbyniol i Jeremy Corbyn yw cynnal etholiad cyffredinol ond fyddai hynny, meddai, “ddim yn datrys y broblem o gwbl”.
“Byddwn ni yn yr un twll ar ôl etholiad a byddai’n senedd grog, yr un rhaniadau, so dyw etholiad ddim yn mynd i ddatrys y sefyllfa.
“Dim ond refferendwm sy’n gallu ei wneud e, a wedyn cael yr etholiad ar ôl hynny.
“Rwy’n credu taw’r cwestiwn mawr i rywun fel Jeremy Corbyn yw hyn: mae’n amlwg i fi does gyda fe ddim y niferoedd o fewn Tŷ’r Cyffredin oherwydd fydd y Ceidwadwyr ddim yn fodlon cefnogi rhoi Jeremy Corbyn neu arweinydd y Blaid Lafur i mewn fel prif weinidog, hyd yn oed am amser byr.
“Y cwestiwn sylfaenol allai godi wedyn i Jeremy Corbyn ac i aelodau eraill y Blaid Lafur yw na fyddai dwy ran o dair aelodau Llafur ddim yn cefnogi Jeremy Corbyn i fod yn brif weinidog. Does dim digon o gefnogaeth gyda fe o fewn ei blaid seneddol ei hunan.
“A fydd e wedyn yn fodlon cefnogi rhywun sy’n gallu cael y niferoedd? Dyna’r her fawr, fi’n credu.
“Os yw e’n fodlon rhoi’r polisi cyn personoliaeth fel mae pawb arall yn gwneud, gobeithio fydd modd cael rhywun i mewn i fynd ar y trywydd polisi ry’n ni’n sôn amdano.”