Mae dau fridiwr cŵn wedi’u carcharu, wedi i Lys y Goron Abertawe eu cael yn euog o redeg busnes bridio cŵn heb drwydded.

Mae Steffan Lee Harries a Barbara Ray Howell i dreulio misoedd dan glo, ac maen nhw wedi’u gwahardd rhag cadw cŵn a bum mlynedd, ac mae gwaharddiad Steffan Lee Harries yn ymestyn i gynnwys cadw ieir a defaid hefyd.

Mae dyfarniad Llys y Goron Abertawe ddoe (dydd Mercher, Awst 14) yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Aberystwyth ym mis Mehefin, lle plediodd Steffan Lee Harries a Barbara Ray Howell yn euog i nifer o gyhuddiadau o redeg busnes bridio cŵn heb drwydded.

Plediodd y ddau hefyd yn euog i gyhuddiadau yn ymwneud â lles anifeiliaid a methiant i waredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid, yn ogystal â throseddau safonau masnach a oedd yn ymwneud â gwerthu cŵn ar wefan pre-loved.co.uk.