Bu farw’r golygydd llyfrau a’r sgriptwraig, Delyth George.

Fe fu’n gyfrifol am lywio trwy’r wasg nifer o gasgliadau o straeon byrion, a bu’n gwethio i wasg Y Lolfa.

Fe astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac am ddoethuriaeth yn y coleg ger y lli.

Ers rhai blynyddoedd, roedd hi’n byw yng Nghaerdydd, ac wedi bod yn sgriptwraig ar gyfres sebon Pobol y Cwm.

Roedd hi’n 58 oed.