Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth cyn-ddarlithydd ym Môn yn apelio am wybodaeth ynglŷn â thri gyrrwr.
Cafodd Gerald Corrigan ei saethu gan fwa croes tra roedd yn addasu lloeren y tu allan i’w gartref mewn ardal anghysbell ger Caergybi ar Ebrill 19.
Bu farw o ganlyniad i’w anafiadau ar Fai 11.
Mae Terrence Michael Whall, 38, o ardal Bryngwran, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio’r pensiynwyr, ac mae disgwyl i’r achos yn ei erbyn ddechrau yn y flwyddyn newydd.
Yn y cyfamser, mae Heddlu’r Gogledd yn awyddus i ddod o hyd i yrwyr tri cherbyd a oedd yn teithio ar hyd Ffordd Porth Dafarch rhwng 11yh ar Ebill 18 ac 1yb ar Ebrill 19.
Maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101, neu drwy gyfrwng eu gwefan.