Mae Heddlu’r De yn ceisio dirwyn rêf anghyfreithlon i ben ar fferm wynt yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd plismyn eu galw i fferm Mynydd Bwlfa yn Hirwaun fore heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 28), ar ôl i gymdogion gwyno.
Mae lle i gredu bod tua 500 o bobol yn rhan o’r digwyddiad, ac mae’r heddlu’n ceisio eu symud oddi ar y safle.
Mae’r heddlu’n atal unrhyw un arall rhag ymuno â’r rêf ar droed neu mewn cerbydau, ac yn rhybuddio pobol i gadw draw.