Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Gogledd Cymru fod 5,000 o bobol yn gorymdeithio yng Nghaernarfon heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 27) tros annibyniaeth i Gymru.

Fe gymrodd hi ymhell dros awr i’r prosesiwn o fflagiau a phlacardiau wneud y daith o ardal Balaclava, rownd y Castell ac at gerflun Lloyd George ar y Maes. Ac erbyn iddyn nhw gyrraedd y fan honno, roedd y ffigwr yn 8,000.

Dyma ychydig luniau o’r digwyddiad…