Mae angen rhagor o eglurder ynghylch sut mae arian yn cael ei rannu rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig, yn ôl un o bwyllgorau San Steffan.

Dan y drefn bresennol, mae’r Trysorlys yn defnyddio fformiwla Barnett er mwyn penderfynu faint mae llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn.

Ond yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus San Steffan, dyw’r Trysorlys ddim yn gwybod i ba raddau mae’r drefn yn bodloni’r gwledydd unigol.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi rhybuddio bod y sustem sydd ohoni ddim wedi ei “ddisgrifio mewn modd sydd yn hawdd i drethdalwyr ei ddeall”.

Yn sgil eu hymchwiliad maen nhw wedi galw am ragor o dryloywder ynghylch sut mae Llywodraeth San Steffan yn penderfynu faint mae pob gwlad yn derbyn.

“Hynod o dryloyw”

“Wnawn ni ystyried casgliadau’r adroddiad yma,” meddai llefarydd ar ran y Trysorlys.

“Rydym yn hynod o dryloyw pan ddaw at ddatgelu faint o fuddsoddiad rydym yn darparu i’r gweinyddiaethau datganoledig.

“Mae pob newid i’r grantiau bloc yma yn cael eu hamlinellu yn ein cyhoeddiad Tryloywder Grant Bloc.”